CYSTADLEUAETH CODIO CYMRU
2019
YR HER
Oedd i greu gêm gyfrifiadurol i blant a phobl ifanc ar y thema 'Darganfod ac Antur'.
​
CA2 - defnyddio'r rhaglen Scratch i greu gêm ryngweithiol ar y themâu.
CA3 - defnyddio'r rhaglen Scratch neu Python i greu gêm ryngweithiol ar y themâu.
CA4 - defnyddio'r rhaglen Python i greu gêm ryngweithiol ar y themâu.
Y RHEOLAU
Dyddiad cau – hanner nos 31/01/19.
Diwrnod gwobrwyo – 07/03/19
Hysbysir yr enillwyr ym mis Chwefror
Mae’r gystadleuaeth ar agor i unrhyw blentyn sydd yn byw yng Nghymru, neu yn mynychu ysgol neu glwb codio yng Nghymru, ac sydd yn 7-16 oed (Cyfnod Allweddol 2, 3 a 4)
Gallwch gystadlu fel unigolyn neu dîm o hyd at 4 person.
Mae’n rhaid i bawb sy’n cystadlu cael caniatâd y rhiant/gwarcheidwad cyn cyflwyno cais.
Derbynnir ceisiadau wedi eu creu gyda’r rhaglen Scratch 2.0/3.0 neu Python yn unig. Ni dderbynnir ceisiadau wedi eu creu gydag unrhyw raglen arall.
Mae’n rhaid derbyn ffurflen gystadlu ffurfiol gyda phob ymgais. Ni dderbynnir ceisiadau heb y ffurflen hon.
Mae rhaid i’r gwaith sy’n cael ei gyflwyno fod yn waith gwreiddiol yr unigolyn neu’r tîm ymgeisio. Ni ddylid cyflwyno gwaith sydd yn addasiad (‘remix’) o waith eraill.
Caniateir i’r ymgeiswyr dderbyn cefnogaeth gan athrawon/cynorthwywyr dosbarth/arweinwyr clwb fel rhan o’r broses dysgu arferol.
Nid oes cyfyngiad ar y nifer o geisiadau gan unigolyn neu dim, ond os oes rhai yn gwneud ceisiadau lluosog disgwylir i bob gêm maent yn ei gyflwyno fod yn sylweddol wahanol.
Rydym yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw ymgais sydd, yn ein barn ni, yn cynnwys deunydd amhriodol.
Wrth gystadlu, rydych yn rhoi caniatâd i Goleg Meirion-Dwyfor a’i phartneriaid wneud defnydd anghyfyngedig o'r ymgais yn y dyfodol, at ddibenion addysgol neu gyhoeddusrwydd. Mewn defnydd o'r fath, bydd y Coleg yn sicrhau bod yr awdur / ysgol yn cael ei gydnabod yn glir.
Bydd Coleg Meirion-Dwyfor yn cadw eich data cyswllt yn gyfrinachol ac ni fydd yn ei ryddhau i unrhyw bartïon eraill.
ENILLWYR
2019
WINNERS
Cyfnod Allweddol 2 tîm / Key Stage 2 team
Team SOH, Usk Church in Wales Primary School
Team McJi, Usk Church in Wales Primary School
Bro Banw Coders, Ysgol Bro Banw
Cyfnod Allweddol 2 unigolyn / Key Stage 2 individual
Daniel He, Willowtown Primary
Alexander Besley, Ysgol Bryn y Mor
Owen Collings, Ysgol Bodfeurig
Cyfnod Allweddol 3 tîm / Key Stage 3 team
Guto Felin a Cian Trefonwys, Ysgol Tryfan
Tîm IMF, Caerleon Comprehensive
Tîm P C C, Ysgol Tryfan
Cyfnod Allweddol 3 unigolyn / Key Stage 3 individual
Cian Griffiths, Ysgol Tryfan
Matilda Boyle, Ysgol Tryfan
Awen Dafydd, Ysgol Dyffryn Conwy
​
Categori Ysgol neu Uned Arbennig / Special School or Unit Category
Oliver Egelstaff-Thomas, Ysgol Bro Gwydir
James Hughes, Ysgol Pendalar
Cai Lloyd Spencer, Ysgol Bro Gwydir
​
NODDWYR 2019
Diolch i'n holl noddwyr am eu cefnogaeth.











